BYWYD GWYLLT BIOAMRYWIAETH
CYMUNEDAU
AMGYLCHEDD
PALM OIL
Mae coedwigoedd glaw'r byd yn systemau eco cytbwys, cymhleth, a hollol anghoel. Gorchuddia coedwigoedd glaw 5% o arwynebedd y byd rhyd belt y cyhydedd- O'r Amazon ym Mrasil, i'r Congo, Bangladesh ag Indonesia. Mae'r 5% yma o dir yn gartref i 2/3 o fio-mass y byd a hanner ein rhywogaethau. Felly, ystyrir Indonesia yn un o'r llefydd gyda'r mwyaf o fioamrywiaeth ar y blaned, ond yn y 30 mlynedd ddiwethaf, mae'r goedwig law wedi bod yn diflannu ar raddfa na ellir ei diystyru. Erbyn 2019 mi fydd yno ddarn arall o goedwig law maint Cymru wedi diflannu a'i droi'n rhesi militaraidd o Goed Palmwydd. I ddarllen ychydig mwy am sut ma’ ecoleg coedwigoedd glaw yn gweithio, cliciwch yma. Ond yn syml, unwaith mae'r goedwig wedi mynd, tydi hi ddim am dyfu nol- yn y diwedd fe droith y tir yn anialwch, a mi fydd un o'r llefydd gyda fwyaf o fywyd ar y blaned yn ddiffrwyth.
SUMATRA...
Sumatra- un o'r ynysoedd wedi ei digoedwigo waethaf, hefyd, yr unig le yn y byd lle mae Orangutans, Eliffantod, Rhinos, Teigrod ac Eirth Sunny yn cyd fyw.





BE AM YR HOLL FYWYD GWYLLT ARALL?
Mae coedwigoedd glaw hynafol Indonesia yn dal fwy o egni na unrhyw ecosystem arall ar y blaned- gyda'r holl law a gwres mae'r system anhygoel yma wedi bod yn esblygu a thyfu i ddarparu amodau perffaith i fywyd gwyllt ffynnu dros y canrifoedd diwethaf. Mae yno gymaint o amrywiaeth o fywyd gwyllt nes fod gwyddonwyr hyd heddiw yn dal i ddarganfod rhywogaethau newydd yno.
Felly, er fod Indonesia yn cyfri fel ddim ond 1% o arwynebedd tir y byd, mae 10% o blanhigion gwybyddus y byd yn tyfu yno, 12% o holl famaliaid y byd yn byw yno, a 17% o holl adar gwybyddus y byd yn hedfan yno- mae'r 'Indonesian Ministry of the Environment' yn amcangyfrif fod hanner o rywogaethau Indonesia dal heb eu recordio.
BE DI PWYSIGRWYDD BIOAMRWYIAETH INDONESIA I NI YN GYMRU?
Be ydi bwys i ni, go iawn, os ydi bob anifail yn goedwigoedd glaw Indonesia yn stopio bodoli? Be ydi bwys os ydi bob planhigyn, blodyn, coeden wyllt o gan mil math yn cael eu llosgi ag yn ei lle iwnifform o goed palmwydd? Be ydi bwys os ydi afonydd Indonesia yn cael ei gwenwyno gan y diwydiant?
Yr atebion hunanol:
1) Meddyginiaethau : Mae'r ddynol ryw ers i ni fedru cerdded ar ddwy goes wedi bod yn dibynnu ar goedwigoedd glaw am feddyginiaethau. Heb draws doriad o blanhigion- mi rydwn ni'n troi ein cefnau ar gyfoeth naturiol o feddyginiaethau.
2) Yng ngheg yr aber, lle mae'r afonydd yn cyfarfod y môr mewn coedwigoedd glaw , yno yn y mangroves ma pysgod ei'n moroedd yn drwy ei wyau. Heb rain, mi welwn ni newidiadau dychrynllyd yn ecoleg y môr a'r pysgod yr ydym yn bwyta.
3) Gene pool: 1/3 anifail y byd yn byw mewn coedwig law, os does yna ddim cynefin iddynt fyw, mi fyddent yn cael ei difa= mi geith y gene pool ei leihau yn aruthrol ac fe fydd y byd yn dlotach lle.